Skip to content ↓

Blwyddyn 3 a 4

Athrawes: Mrs G Wilde

Ebost: admin@parcyrhun.ysgolccc.cymru

Gwybodaeth Defnyddiol 

Enwau 

Gofynnir i rieni/gwarchodwyr i sicrhau fod dillad y plant yn cael eu labeli gydag enw’r plentyn, os gwelwch yn dda. 

Ffrwyth amser egwyl

Mae croeso i’ch plentyn i ddod a byrbryd ffrwyth i fwyta yn ystod amser egwyl bore.

Ymarfer Corff 

Bydd angen gwisg ymarfer corff ar eich plentyn, sef: crys-t gwyn a siorts/trowsus du, os gwelwch yn dda. Fe fydd eich plentyn yn dod i’r ysgol mewn gwisg ymarfer corff ar y diwrnodau canlynol: 

Ffrwd Gymraeg: Dydd Mawrth 

English stream:

Bydd Blwyddyn 3 a 4 yn mynychu gwersi nofio yn ystod Tymor y Gwanwyn am floc o dair wythnos. Mi fydd angen gwisg nofio a thywel bob dydd yn ystod y cyfnod yma.

Casglu Plant 

Mae angen i rieni/gwarchodwyr sicrhau fod gan yr ysgol gwybodaeth sydd yn ymwneud a’r pobl a fydd yn casglu’r plant o’r ysgol yn dyddiol ynghyd a chyfrinair personol eich plentyn. Mae angen y wybodaeth yma arnom er mwyn sicrhau diogelwch y plant. Os hoffech bod eich plentyn yn cerdded i’r maes parcio a allwch ddanfon caniatad ysgrifenedig i’r ysgol. 

Darllen 

Bydd llyfrau darllen i'ch plentyn yn cael ei anfon yn ddyddiol a gofynnwn iddyn gael eu dychwelyd i'r ysgol yn ddyddiol. Bydd hyn yn caniatáu i'ch plentyn ddarllen gyda chi gartref ac yna cael cyfleoedd pellach i ymarfer darllen yn yr ysgol fel arfer.

Gwaith Cartref 

Fe fydd gwaith cartref iaith yn cael ei osod yn llyfr gwaith cartref ar bob Dydd Llun i’w gwblhau erbyn bob Dydd Iau. Fe fydd gwaith cartref mathemateg yn cael ei osod ar Microsoft Teams bob dydd Iau i’w gwblhau erbyn Dydd Llun.