Skip to content ↓

Y Siarter Iaith

Siarter Iaith Ysgol Gymraeg Parcyrhun

Ein Criw Cymraeg 2024-25

 

https://www.dropbox.com/sh/pkfbayws6de6lik/AAAw2dLmS732OPpeQE0sMyMAa/Fideo%20Siarter%20Iaith_Cymraeg_heb%20is-deitlau.mp4?dl=0

Mae'r llywodraeth yn anelu i gael 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050 ac rydym ni'n anelu gyda nhw! Rhaid i’r genedl gyfan fod yn rhan o’r daith siaradwyr boed nhw’n siaradwyr Cymraeg rhugl, siaradwyr sy’n ddi-hyder o ddefnyddio’r iaith neu'n siaradwyr sydd newydd ddysgu.

Ein nod ni fel ysgol yw bod pob plentyn yn dewis ac yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl a fel ail-iaith ym mhob agwedd o'u bywyd a byddant yn ymfalchio yn iaith, diwylliant a thraddodiadau Cymreig. Dymunwn i chi fel rhieni ymuno yn y frwydr gyda ni i gadw'r iaith yn fyw.

https://www.gov.wales/cymraeg-education/schools/welsh-language-charter

Targedau'r Criw Cymry Cŵl

  • Ein nod am dymor yr Hydref:

    · I ddefnyddio’r Criw Cymraeg o llynedd i gynorthwyo wrth ddysgu’r Criw Cymraeg newydd am eu dyletswyddau.

    · I weld os oes gan y Criw Cymraeg unrhyw syniadau ar gyfer datblygu’r iaith Gymraeg ar draws yr ysgol.

    · I ail gyflwyno patrwm / geirfa’r bythefnos, idiom y bythefnos a dysgu am artist cerddorol a bardd/awdur y mis .

    · Disgyblion i wrando ar gerddoriaeth Cymraeg gan wahanol artistiaid ar yr iard ac yn y dosbarthiadau.

    · I greu amserlen o ganeuon Cymraeg i ganu ar ddiwedd amseroedd chwarae yn y cylchoedd.

    · Dathlu Diwrnod Shwmae drwy greu fideo o bob dosbarth yn dweud ‘Shwmae’ a’i rannu ar ‘X’. I gymryd rhan mewn gweithgareddau yn y dosbarth.

    · I ail gynnal y cyswllt gydag ysgol Tycroes, Ysgol Gymraeg Llundain ac ysgolion lleol er mwyn cymryd rhan mewn gwahanol gweithgareddau.

    · I drefnu gemau buarth gyda Menter Bro Dinefwr i bob dosbarth.

    · Y Criw Cymraeg i helpu staff er mwyn gwobrwyo plant drwy wrando am y plant sy’n siarad Cymraeg yn y dosbarth ac ar yr iard. I gadw trac a hyn drwy ddefnyddio’r siart ddosbarth, rhoi sticeri a thystysgrif i’r plentyn sydd ar mwyaf o bwyntiau yn y gwasanaeth ar Ddydd Iau.

    · Yr ysgol gyfan i ddysgu’r gân ‘Mae Siarad Cymraeg fel Magic.’

    · I ddysgu emynau Cymraeg yn y gwasanaeth ac ar gyfer y gwasanaeth Nadolig.

    · I ail gyflwyno Dwynwen y ddraig i fynd a gartref dros y penwythnos.

    · I rannu gwahanol apiau/ gwefannau gyda rhieni fydd yn eu cynorthwyo nhw a’i plant gyda’r iaith.

Dwedwch yn y Gymraeg / Say it in Cymraeg!

Ewch i'r gwefannau isod:

Go these these websites below: