Skip to content ↓

Prydau Ysgol

Prydau Ysgol am Ddim a Phrydau Ysgol Am Ddim i bob Plentyn Ysgol Gynradd

Prydau Ysgol am Ddim

Mae prydau ysgol am ddim yn dibynnu ar incwm eich cartref ac os ydych yn derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, mae'n bwysig iawn eich bod yn hawlio am hyn. Ni fydd y pryd y mae eich plentyn yn ei dderbyn yn wahanol a bydd yn golygu eich bod yn gymwys i gael unrhyw gymorth sydd ar gael yn ystod gwyliau'r ysgol neu os bydd ysgolion yn cau.

Prydau Ysgol Am Ddim i bob plentyn Ysgol Gynradd

Ers mis Medi 2022 mae pob plentyn o Flwyddyn Meithrin i Flwyddyn 6 yn derbyn cinio Ysgol am ddim. 

Cyflwyno Prydau Ysgol am Ddim i bob plentyn Ysgol Gynradd yn raddol

Bydd Prydau Ysgol Am Ddim i bob plentyn Ysgol Gynradd yn cael eu gwneud mewn cyfnodau o wahanol grwpiau blwyddyn. Ers mis Medi 2022 mae pob plentyn Meithrin a Derbyn wedi cael cynnig Prydau Ysgol am Ddim i bob plentyn Ysgol Gynradd. Ym mia Ionawr 2023, mae holl ddisgyblion Blwyddyn 1 hefyd wedi cael cynnig Cinio Ysgol Gynradd Am Ddim Cyffredinol ac o 17 Ebrill 2023 bydd holl ddisgyblion Blwyddyn 2 yn cael cynnig Cinio Ysgol Gynradd Am Ddim Cyffredinol. Rydym yn gweithio'n galed i benderfynu ar y cynharaf y byddwn yn gallu cyflwyno'r cynnig i flynyddoedd ychwanegol. 

Cofiwch NAD YW disgyblion rhan-amser na'r rhai mewn lleoliadau gofal plant (hyd yn oed os yw'r lleoliad mewn ysgol e.e., Cylch Meithrin) yn gymwys.

Nid yw'r cynnig hwn yn dibynnu ar incwm eich cartref neu a ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, mae pob plentyn yn y grwpiau blwyddyn hyn yn gymwys i fanteisio ar y cynnig. Dim ond yn ystod y tymor ysgol y mae'r pryd ar gael ac nid yn ystod gwyliau'r ysgol.

Mae'r cynllun Prydau Ysgol am Ddim presennol yn parhau i fod ar waith ar gyfer POB disgybl amser llawn cymwys arall sydd ar y gofrestr yn ysgolion Sir Gaerfyrddin.

Nid oes angen gwneud cais am Brydau Ysgol am Ddim i bob plentyn Ysgol Gynradd. Fodd bynnag, mae'n hanfodol eich bod yn rhoi gwybod i'r ysgol am unrhyw anghenion arbennig o ran diet ar gyfer eich plentyn cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod modd diwallu anghenion dietegol eich plentyn.

Os yw eich plentyn yn derbyn prydau ysgol am ddim a/neu unrhyw fudd-daliadau cysylltiedig eraill ar hyn o bryd, gallwn eich sicrhau na fydd hyn yn cael ei effeithio. Ar hyn o bryd mae'r broses ar gyfer gwneud cais am bryd ysgol am ddim yn parhau yn ei lle ac anogir teuluoedd i wneud cais yn y ffordd arferol

Bydd amserlen Sir Gâr ar gyfer cyflwyno'r cynllun hwn i'r disgyblion hynny (Blwyddyn 3 ac uwch) yn cael ei chyhoeddi cyn gynted â phosib.

https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/gwasanaethaur-cyngor/addysg-ac-ysgolion/prydau-ysgol/prydau-ysgol-am-ddim/#

Breakfast club

Ar hyn o bryd mae gan 96 o ysgolion cynradd ledled y sir glwb brecwast am ddim, a thestun balchder inni yw bod y niferoedd sy'n defnyddio'r clybiau brecwast hyn ymysg y mwyaf yng Nghymru.

Mae brecwast wedi hen gael ei gydnabod yn bryd pwysicaf y dydd, ac mae'r dystiolaeth yn dangos bod cysylltiad rhwng brecwast iach a gwell iechyd, gwell canolbwyntio, a gwell ymddygiad yn ein hysgolion.

Mae'n hollbwysig ein bod yn bwyta brecwast gan nad ydym ar ein gorau hebddo. Mae brecwast yn helpu i roi hwb i'r corff ac yn rhoi tanwydd i'r ymennydd ar ôl bod yn cysgu am oriau. Gan ein bod yn defnyddio egni yn ystod y nos mae angen gofalu ein bod yn cael tanwydd newydd cyn gynted â phosibl ar ôl dihuno yn y bore er mwyn cychwyn y diwrnod yn y modd gorau posibl.

Mae'r rhan fwyaf o'r clybiau brecwast yn agor am 8.15am. Gall disgyblion ddewis amryw o ddewisiadau i frecwast, er enghraifft:

  • Dewis o rawnfwyd plaen heb gaenen o siwgr
  • Tost
  • Sudd ffrwythau neu laeth i'w yfed

(Sylwer y gallai ein bwydlen frecwast amrywio rhywfaint o bryd i'w gilydd)

Yn ogystal â chynnig brecwast iach mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn trefnu cystadlaethau a brecwastau ar thema arbennig gydol y flwyddyn, ynghyd ag annog y disgyblion i gymdeithasu yn ystod y sesiwn.  Mae'r Cyngor yn cynnig gwasanaeth rhad ac am ddim fel bod pawb yn cael cyfle i fod ar eu gorau ar ddechrau'r diwrnod ysgol!

Llaeth ysgol am ddim

Mae cynlluniau cymhorthdal llaeth ysgol yn annog plant i ddatblygu arfer gydol oes o yfed llaeth ac o yfed/fwyta cynhyrchion llaeth. Mae'r Awdurdod yn cynorthwyo ysgolion ledled y Sir i hawlio llaeth am ddim ar gyfer y categorïau oedran canlynol:

  • Dosbarthiadau meithrin (plant o dan 5 oed) sy'n mynd i'r ysgol am fwy na dwy awr y dydd;
  • Hefyd yng Nghymru, mae plant sy'n derbyn addysg Cyfnod Allweddol 1 yn gymwys i gael llaeth am ddim a ariennir gan Lywodraeth Cymru.