Cyngor Ysgol
Cyngor Ysgol – School Council
Mae’r Cyngor yn chwarae rôl fawr yn Ysgol Parcyrhun, maent yn gwneud yn siŵr bod lleisiau’r plant yn cael eu clywed ac yn anelu at wella bywyd Ysgol. Mae’r cyngor yn rhoi nifer o gyfleoedd i’r plant, gan gynnwys gwrando ar eraill a deall safbwyntiau gwahanol, mynegi barn, cynrychioli cyfoedion, gofyn cwestiynau, rhedeg eu cyllideb eu hunain, gwneud penderfyniadau ac adrodd yn ôl i’w dosbarthiadau.
The Council plays a big role in Parcyrhun School, making sure that pupils’ voices are heard and striving to improve life in School. The council allows the children many opportunities, including listening to others and understanding their viewpoint, expressing their opinion, representing their peers, asking questions, running their own budget and feeding back to their classes.
“Mae plant yr Ysgol yn gweld y bathodyn Cyngor Ysgol ac yn gwybod fy mod i’n berson maent yn gallu rhannu syniadau gyda. Fi’n gwneud yn siwr fy mod yn gwrando ar bob plentyn yn unigol, mae bob plentyn yn bwysig.”
“We are the voice of the children, we listen and create exciting events to raise money for charities, for new school supplies and to teach children about local, national and international issues.”
Ein Nodau – Tymor yr Hydref – Cyngor Ysgol
· Mae'r plant wedi penderfynu gwerthu byrbrydau iach eto yn ystod amser chwarae dydd Gwener. Mae'r cyngor eisoes wedi creu cod QR yn gofyn i'r plant benderfynu pa fyrbrydau yr hoffent eu prynu (llais y disgybl). Y Cyngor Ysgol fydd yn gyfrifol am drin yr arian. Trafododd y disgyblion werthu ffrwythau gan fod yn rhaid i'r byrbryd fod yn iach.
· Cynhaeaf – Mae'r Cyngor Ysgol wedi penderfynu cefnogi banc bwyd Rhydaman eto eleni. Bydd y plant yn trafod pwysigrwydd cefnogi achosion lleol yn ystod ein gwasanaeth cynhaeaf. Byddwn yn trefnu bod y banc bwyd yn dod i gasglu’r cyfraniad.
· Plant mewn angen – Byddwn yn trefnu gweithgareddau eto eleni i gefnogi plant mewn angen. Byddwn yn cyfarfod â’r Cyngor Ysgol yn agosach at yr amser i benderfynu ar dewisiadau.
· Mae’r ddisgyblion wedi penderfynu eu bod am annog disgyblion eraill i fynychu clybiau ar ôl ysgol – mae aelodau'r cyngor yn bwriadu gwneud posteri o ddyddiau/amseroedd clybiau a'r gwahanol weithgareddau a gynigir. Disgyblion hefyd i drafod manteision clybiau yn y gwasanaeth a rhoi neges y posteri yn y dosbarth a'r gwasanaeth.
· Mae disgyblion, o gyfarfod cyngor yr ysgol, wedi mynegi dymuniad am anifail anwes. Mae disgyblion yn credu y bydd anifail anwes yr ysgol yn dod ag ymdeimlad da o les i ddisgyblion a staff yn yr ysgol. Mae aelodau cyngor yr ysgol yn dymuno gofalu am anifail anwes os gallant gael un. Athrawon i drafod cael anifail anwes a chyngor ysgol i ofyn barn eu cyfoedion.