Diogelu
Diogelu ac Amddiffyn Plant
Safeguarding & Child Protection
Y personau a’u enwebir â chyfrifoldeb diogelu plant yn yr ysgol yw:
Mrs N Hallam - Pennaeth
Miss N Williams - Dirprwy bennaeth
Mrs M Higgins - Arweinydd ALNCO - Uwch Dim Rheoli
Mrs N Davies - Persons nominated
Llywodraethwr: Mrs Nia Jones
Mae pob aelod o staff yr ysgol hon yn gyfrifol am ddiogelu ac amddiffyn plant. Os ceir pryderon ynglyn ag esgeulustra neu gam-drin corfforol emosiynol neu rywiol, yna mae’n ddyletswydd ar y staff yn unol â Threfn Diogelu Plant y Sir, i sôn am y mater wrth Gyd– gysylltydd Diogelu plant yr Ysgol. Gall Cyd-gysylltydd yr ysgol ymgynghori â chyd-weithwyr proffesiynol yn ogystal ag asiantaethau perthnasol megis y Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol, yn unol â chanllawiau a phrotocol y Sir.
Yn dilyn y trafodaethau hyn, efallai y bydd rhaid i gyd-gysylltydd yr ysgol gyfeirio’r plentyn yn swyddogol i’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, yn unol â chanllawiau a phrotocol y sir. Yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n penderfynu os oes angen gweithredu neu beidio. Oblegid natur y cyhuddiadau, ni fydd bob amser yn briodol i drafod y materion gyda’r rhieni cyn cyfeirio’r plentyn.
DIOGELWCH YR YSGOL
Nid oes modd agor drysau’r ysgol o’r tu allan ac felly ceir mynediad i’r ysgol i ymwelwyr trwy’r brif fynedfa wrth Swyddfa’r ysgol. Mae iard yr ysgol yn gaeëdig. Hefyd mae larymau tân a larymau lladron yn yr ysgol.
Diogelu - Rhifau Defnyddiol /Safeguarding - Useful Numbers
Caryl Davies : 01267 246595 / 07880 504297
Swyddog Diogelu’r Sir
County’s Safeguarding Officer
Rhifau defnyddiol arall / Other useful contacts:
Carmarthenshire Local Safeguarding Children’s Board- 01267 246544
NSPCC Helpline – 0800 800 500
Dyfed Powys Police – 0845 330 2000
Threshold - A safe place for anyone affected by domestic abuse - 01554 752422 -
https://threshold-das.org.uk/
Operation Encompass
Rydym yn rhan o Operation Encompass
Mae Operation Encompass yn sicrhau bod galwad ffôn syml neu hysbysiad i Arweinydd / Swyddog Diogelu Dynodedig hyfforddedig ysgol (a elwir yn Oedolyn allweddol) cyn dechrau'r diwrnod ysgol nesaf ar ôl i ddigwyddiad o heddlu fynychu cam-drin domestig lle mae plant yn gysylltiedig â y naill neu'r llall o'r partïon oedolion dan sylw.
Mae Operation Encompass yn bartneriaeth diogelu gwybodaeth gynnar gan yr heddlu ac addysg sy'n galluogi ysgolion i gynnig cefnogaeth ar unwaith i blant sy'n profi cam-drin domestig.
We are part of Operation Encompass
Operation Encompass ensures that there is a simple telephone call or notification to a school’s trained Designated Safeguarding Lead /Officer (known as key Adult) prior to the start of the next school day after an incident of police attended domestic abuse where there are children related to either of the adult parties involved.
Operation Encompass is a police and education early information safeguarding partnership enabling schools to offer immediate support to children experiencing domestic abuse.
Tim o Amgylch y Teulu
O bryd i’w gilydd, mae pawb angen ychydig bach o gymorth ychwanegol i fyw bywydau hapus, iach a llwyddiannus. Mae’r Tîm o Amgylch y Teulu (TAF) yn ffordd o ddod â phobl ynghyd sy’n gallu eich helpu chi a’ch teulu i wneud gwahaniaeth go iawn. Bydd y Tîm o Amgylch y Teulu yn gweithio gyda chi ac yn sicrhau eich bod chi’n cael y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch.
Nid Gwasanaeth Statudol yw’r Tîm o Amgylch y Teulu sy’n golygu na fyddwch chi’n gweithio gyda Gweithiwr Cymdeithasol. Does dim rhaid i chi weithio gyda’r Tîm o Amgylch y Teulu a gallwch newid eich meddwl ar unrhyw adeg.
Gall y Tîm o Amgylch y Teulu ddarparu cymorth a chefnogaeth â phob math o faterion megis pryderon ynghylch yr ysgol ac addysg, ymddygiad, pryderon ynghylch iechyd, tai ac ati.
https://fis.carmarthenshire.gov.wales/tim-o-amgylch-y-teulu/?lang=cy
E-Ddiogelwch/E-Safety
https://hwb.gov.wales/keeping-safe-online
https://schoolbeat.cymru/cy/rhieni/
https://www.nspcc.org.uk/keeping-children-safe/online-safety/